Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Ionawr 2023
Amser:
09.30 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13412
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Rhiannon Hardiman, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Alex Chapman, Sefydliad Economeg Newydd Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan Luke Young, Cyngor ar Bopeth Natasha Davies, Partner Polisi, Chwarae Teg Richard Hughes, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Andy King, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Professor David Miles, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09:15-09:30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid,
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Dr Ed Poole, Uwch-ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru); a Guto Ifan, Darlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru) fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
Egwyl (10.30-10.40)
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Rhiannon Hardiman, Ysgogwr Newid, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Alex Chapman, Uwch Ymchwilydd, New Economics Foundation fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
Egwyl (11.25-11.35)
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 4
5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan; Luke Young, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru; a Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 7,9,10,11 a 12.
6.1 Derbyniwyd y cynnig
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Richard Hughes, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; Andy King, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; a’r Athro David Miles, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
9 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
10 Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2023-24
10.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
11 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU
11.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
12 Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru)
12.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i graffu ar oblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru).